Hanes Sant Tydecho - Y Dechrau

Mae'r Testun canlynol gan yr awdur Alun Hughes o'r llyfr "Eglwys Llanymawddwy" a gyhoeddwyd gyntaf Awst 1998

Y Dechrau

Y sôn cynharaf am yr eglwys hon hyd y gwn yw ei bod wedi'i chynnwys ymhlith eglwysi Cyfeiliog a Mawddwy yn 1254 yn Nhrethiad Norwich. Y mae'r nesaf i'w weld yn Taxatio Ecclesiatica y Pab Nicolai 1V o'r flwyddyn 1288. Ar ei orchymyn, fe wnaed y dreth eglwysig yn daladwy i Edward 1 i dalu am ei ymgyrch i'r Wlad Sanctaidd, ac er mwyn gwneud hynny'n effeithiol fe aed drwy'r holl wlad — Lloegr a Chymru — gan ddechrau yn 1288 a gorffen yn 1292 gan restru'r gwerth a'r degwm ym mhob plwyf. Fe restrir Llanymawddwy (Lanemadwe) gyda'r capeli ym Mallwyd a Garthbeibio yn werth dec punt y plwy rheithorol a dwy bunt y ficeriaeth. Gellir cymharu hyn â phedair punt yr un am blwyfi rheithorol Cemais a Darowen. Gwyddom felly bod eglwys yma yn 1254, a'r tebygrwydd yw ei bod o garreg; yn niffyg gwybodaeth, medrwn ddyfalu i'r eglwys garreg gynharaf gael ei chodi ryw ddwy ganrif cyn hynny.

Pan deithiai Lewis Morris drwy Lanymawddwy yn 1746, fe welodd garreg hynafol ger wal y fynwent, ac arni'r ysgrifen yn Lladin: “(carreg) merch Salvianus, Ve... maie, gwraig Tigernicus. Hefyd ei ferch Rigohene, gwraig Oneratus”. Mae yna ddwy linell ar goll; mae'n debygol mai coffau rhagor o deulu Salvianus yr oeddynt. Mae'n ddiddorol bod carreg yn cofnodi marwolaeth Salvianus ei hun wedi'i chofnodi yn yr 17eg ganrif yng Nghaer Gai, Llanuwchllyn, ac fe'i dyddiwyd i'r bumed neu ddechrau'r chweched ganrif gan Nash-Williams. Ysywaeth nid yw'r cerrig hyn i'w gweld heddiw, ond pwy a ŵyr, hwyrach y deuant i'r golwg rywbryd eto.

Mewn ychydig iawn o flynyddoedd wedi gosod y garreg hynafol hon, wele Tydecho yn cyrraedd yma. Ef yw nawddsant eglwys Llanymawddwy. Bwrir iddo ddod i fyny yma o gyffiniau Tywyn, wedi iddo lanio yno o Gernyw, yn un o fintai a adawodd Lydaw yn gynnar yn y 6ed ganrif. Credir ei fod yn fab i Annwn Ddu ab Ynyr Llydaw, a'i fod yn gefnder i Gadfan Sant.

Cododd eglwys fach a chell i fyw ynddi ar lecyn o dir lle gorwedda'r eglwys heddiw, ar godiad tir, uwchlaw gorlifiad posibl yr afon. Yma mae'r dyffryn yn weddol lydan — dyffryn cul iawn yw am bedair milltir ar y ffordd i fyny — a thiroedd gwastad o'i amgylch. Yn ôl hen draddodiad lleol, 'roedd geifr gan Dydecho, ac fe benderfynodd y setlai ar y fan lle gorweddai'r geifr. Yn ôl y stori, bu i'r geifr bendroni tipyn ger y Bryn Coch, ryw filltir yn is i lawr — safle'r Capel Wesle ganrifoedd yn ddiweddarach — ond ymlaen y daethant a gorwedd yn hapus ar y llecyn lle saif yr eglwys byth ers hynny. Yr oedd hyn oddeutu'r flwyddyn 530. Eglwys fach o bren oedd hi gyda chlai a gwiail wedi'u plethu yn gysgod, a diamau bod yno ffens neu wal o'i hamgylch. Galwyd y tir oddi mewn i'r ffens yn 'llan”, a gellid meddwl mai Llandydecho fyddai'r enw naturiol ar y pentre a dyfodd yn raddol o amgylch. Yn ôl Charles Ashton, Llandudech oedd yr enw gwreiddiol, ond ymhen amser — a chyn 1250 yn sicr — fe'i disodlwyd gan yr enw Llan ym Mawddwy.

Am ganrifoedd maith wedi'r sefydlu, nid oes dogfen ar gael a all daflu goleuni ar dywyllwch yr amseroedd. Ond, o'r golwg, 'roedd teyrngarwch personol yr Eglwys Geltaidd i'w seintiau ac i'w sylfeini mynachlogaidd yn raddol roi lle i'r drefn esgobaethol diriogaethol. Ond nid yn hollol felly chwaith — fe gadwyd drwy'r canrifoedd enw 'Tydecho ar gof a chadw, ac fe ddaw'r eglwys yn Llanymawddwy i'r golwg yn y 13eg ganrif yn un o eglwysi esgobaeth Llanelwy. Mae'r bedyddfaen yn dyst distaw o'r amseroedd cynnar hyn, yn wir, yn rhagflaenu'r dystiolaeth ysgrifenedig gyntaf.

Y mae powlen y bedyddfaen yn wythonglog, yn addurnedig a dyfais sgolpiog ar hyd ymyl y darn uchaf, a chylch plaen oddeutu'r hanner. Tywodfaen yw'r garreg, carreg felen writgoch braidd, carreg ddieithr i gyffiniau Llanymawddwy. Y mae hyn yn codi cwestiwn ynghylch ei tharddiad. Y ddau leoliad tebygol yw, naill i'r dwyrain o Sir Amwythig ger Grinshill — chwarel adnabyddus am dywodfaen caletach na'r cyffredin - neu i'r gogledd ddwyrain i gyfeiriad Wrecsam — Caer. Y posibilrwydd arall yw iddi ddod o fynachlog megis Abaty Cymer neu Ystrad Marchell, Y Trallwng, wedi'r diddymiad adeg Harri'r 8fed. Fe saif y bedyddfaen ar garreg igneaidd isel, fu hwyrach yn faen melin cyn ei osod yma.

Ffont Cerrig

Nesaf: Hanes Sant Tydecho - Rheithor