Y Plygain
Cyhoeddwyd y testun canlynol ar flog Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2019 ac fe’i hatgynhyrchir yma trwy garedigrwydd yr awdur Dr Rhiannon Ifans.
'Y Plygain' yng Nghymru
Unwaith mae’r hydref drosodd a phawb yn dechrau cwyno ei bod hi’n oer, dyna’r amser i fynd am drip i sir Drefaldwyn. Pam? Wel, i ganu’r hen garolau plygain – nid mewn cyngerdd nac eisteddfod, ond fel rhan o wasanaeth naturiol y gymdeithas mewn eglwys a chapel, drwy’r Adfent ac ymlaen tan Ŵyl Fair y Canhwyllau ar 2 Chwefror.
Mae’n debyg mai o’r Lladin pullicantio ‘caniad y ceiliog’ y daw’r gair plygain. Cynhelid y gwasanaeth yn wreiddiol am 3 a.m., cyn ei symud i 4, yna 5, yna 6 o’r gloch ar fore’r Nadolig. Un o wasanaethau’r Eglwys Gatholig oedd y plygain tan y Diwygiad Protestannaidd pan fabwysiadwyd ef gan yr Anglicaniaid, ac yna’n ddiweddarach gan yr Anghydffurfwyr. Erbyn heddiw, gyda’r nos y cynhelir y gwasanaeth, gan mwyaf.