Hanes Sant Tydecho - Rheithoriaid hyd at 1849

Mae'r Testun canlynol gan yr awdur Alun Hughes o'r llyfr "Eglwys Llanymawddwy" a gyhoeddwyd gyntaf Awst 1998

Rheithoriaid hyd at 1849

Roedd y Dr. John Davies yn rheithor Mallwyd crs 1604, a rhoddwyd plwy Llanymawddwy i'w ofal yn 1613; cafodd Ddarowen hefyd yr un pryd, ond rhoddodd hwn i fyny yn 1621 pan gafodd segurswydd Llanfor ger Y Bala. Yr oedd yn un o ysgolheigion mwyaf Cymru, ac yn bennaf cyfrifol am argraffiad 1620 o'r Beibl Cymraeg ac am lendid a chywirdeb yr iaith. Yn nes gartref, yr oedd yn ynad heddwch, y fo a adeiladodd Reithordy Mallwyd, taflodd dair pont dros afonydd Mallwyd, ef fu'n gyfrifol am estyniad eglwys Mallwyd i'r dwyrain, am y tŵr cadarn i'r eglwys ac am y porth deheuol. Gresyn na fyddai wedi ymarfer peth o'i ddoniau creadigol yma yn Llanymawddwy. Ni chafwyd pont dros afon Pumryd tan 1896 — pont drocd yn unig oedd yma cyn hynny — ac ni chafwyd rheithordy hyd oddeutu 1830. Ond fe anrhegodd yr eglwys â'i Feibl Cymraeg, Gwyddom hyn gan i'Thomas Daviesyn ei lyfr, Dinas Mawddwy a'i Hamgylchoedd 1893, honni fod yn ei feddiant gopi o Feibl Cymraeg a roddodd Dr Dafis i eglwys Llanymawddwy. Sut y daeth i feddiant Thomas Davies a beth fu ei hanes wedi hynny sydd gwestiynau dyrys.

Fe welir o dirysgrif a wnaed gan Dr John Davies yn 1630 bod ganddo gurad yma o'r enw Evan Roberts, ac mae'n bur debyg mai ef, sef y curad, fel mewn llawer oes, oedd â gofal y plwyf. Fe sonia yn y tirysgrif am dir o ddeuddeg erw, gydag enwau fel Dôl y ceirw, Cae du, Dolau Henllwyd, Dôl y Suran, Clwt y Person, Pant y maes, a Chae'r Llechwedd. Mae'r enw Dôl y ceirw yn awgrymiadol, ac yn mynd a ni yn ôl i gywydd Dafydd Llwyd o Fathafarn tua'r flwyddyn 1460 i Dydecho, 'y crefyddwr mawr o Fawddwy'. Mae'n sôn yn hwn am yr helynt a fu rhwng Maelgwn Gwynedd a Thydecho — un garw am boenydio'r saint oedd Maelgwn. Un diwrnod yr oedd Tydecho yn aredig ar lan afon Ddyfi, ond fe ddygodd Maelgwn ei ychen oddi arno. Drannoeth er mawr syndod i Faelgwn, yr oedd ceirw wedi cymryd drosodd y gwaith; yng ngeiriau'r bardd:

Dug Maelgwn wedi digiaw
Ychen y gwr llên gerllaw;
Yr ail dydd, bu arial dig,
Yr ydoedd geirw yn aredig.

Rhyfedd onide bod y cof am yr ysgarmes hon, sy'n mynd â ni yn ôl i'r 6ed ganrif, wedi'i gadw ar hyd y canrifoedd fel yr enw ar y ddôl sy'n rhedeg gyda'r afon o dir yr eglwys i Gilwern. Fe'i cofnodwyd ar fap Degwm Mawddwy 1840 fel 'y Ddôlceirw', ond bellach mae'r hen enw wedi'i golli.

Yn y cofrestri cynharaf i'r eglwys, sef o'r blynyddoedd 1627 i 1687, sydd wedi'u rhwymo gyda'i gilydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ceir enw'r curad Evan Roberts yn anfynych yn cofnodi bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau yn Saesneg neu Ladin yn ddiwahân. Mae cyflwr y dogfennau hyn yn wael iawn, yn enwedig yr adluniau ohonynt sydd yn y gist haearn yn yr eglwys, ond diau y gellid gwneud rhywbeth ohonynt pe bai galw. Gall bod rhai wedi'u cofnodi ar ôl yr adferiad yn 1660 — nid ydynt yn olynol yn ôl y dyddiad, ac mae'r llawysgrif mewn mannau braidd yn unffurf, fel pe baent wedi'u llenwi'n ddiweddarach. Y mae John Ffoulkes yn cael ci gofnodi yn rheithor Llanymawddwy yn 1659, ond nid yn 1658.

Y mae adysgrifau'r esgob, a wnaeth John Ffoulkes o'r cofrestrau, i'w cael yn y Llyfrgell Genedlaethol o'r flwyddyn 1666 ymlaen, ond nid ydynt yn gyflawn. Ysgrifenna yn Lladin ar ddarnau o femrwn heb roi dim manylion ar wahân i enwau wedi'i Lladineiddio a'r dyddiad. Bu ef farw yn nawdegau'r ganrif, a dywedir iddo gael ei gladdu o dan yr hen ywen sydd agosaf at y ffordd. Y mae sôn yn y cofrestri am fwstwr a wnaed yn 1693; mae yma restr o'r cyfraniadau a gafwyd yn y ddau blwyf, Llanymawddwy a Mallwyd. Casglwyd y swm anhygoel o dros fil a thri chant o bunnoedd. Fe sylwir bod enw John Ffoulkes yno ymhlith y cyfranwyr; fe gyfrannodd £25.

Y rheithor nesaf a geir yw William Jones yn 1700. Y maeyn dal aty Lladin, ond fe rydd bennawd Saesneg i “The Register Roll of Llanymawddwy exhibited at Llanvylling.” Yn 1702 am y tro cyntaf mae enwau'r cartrefi yn cael eu nodi, ond yn ysbeidiol y bu hyn. Am lawer blwyddyn yn y 18ed ganrif yr oedd yn ofynnol i'r rheithor arddangos rhôl o'r gofrestr gerbron yr archddiacon; roedd y rhain wedi'u tynnu o'r cofrestri eglwysig a gedwid yn yr eglwys, ond erbyn heddiw y rhôl yma yw'r unig ddogfen sy ar gael am lawer blwyddyn. Yn Lladin y maent o 1701 hyd 1746, ac yna yn sydyn fe dry Richardus Hughes yn Richard Hughes, Saesneg fu hi o hynny ymlaen. Am flynyddoedd lawer, fe groniclwyd mwy o fedyddiadau nag o angladdau, a dim mwy na rhyw ddwy neu dair o briodasau — dyweder tua pymtheg o fedyddiadau a thua deg o angladdau yn flynyddol. Mae'r flwyddyn 1729 yn neilltuol am rifyr angladdau; croniclir hanner cant y flwyddyn honno, a bu 21 o angladdau mewn dau fis. Diamau bod haint farwol yn y fro yr adeg yma. Y flwyddyn ddilynol roedd y marwolaethau i lawr i saith.

Y mae adroddiad y Deon Gwlad, William Davies Llanwrin, am y flwyddyn 1709 ar gael. Fe gafodd yr eglwys mewn cyflwr gweddol, a chysidro mai eglwys wledig oedd, ond bod y Bwrdd Cymun heb reiliau o'i gwmpas, ac nad oedd brawddegau o'r Beibl yn addurno'r muriau, fel y dylid yn ôl y Canon. Noda nad oedd tŷ ar gyfer y rheithor.

David Wynne, rheithor Machynlleth, biau'r adroddiad nesaf sydd ar gael. Y mae am y flwyddyn 1729, ac edrydd bod y rheithor Richard Hughes yn byw yn y plwyf, er nad oedd tŷ ar dir y llan. “Roedd y mur deheuol i'r eglwys yn dirywio, a'r to eisiau ei gryfhau; y bwrdd cymun a'r pulpud yn hen a darfodedig. Nid oedd na charped na lliain i'r bwrdd. 'Roedd y cwpan cymun arian mewn cyflwr da, hefyd costrel biwtar a dau blat piwtar. Nid oedd ond ychydig o feinciau yn yr eglwys; dau gopi Cymraeg o'r Llyfr Gweddi Gyffredin, ac un Saesneg, a hen Feibl rhwygedig ac anghyflawn.

Yn yr adroddiad nesaf, heb ei arwyddo, yn 1732, 'roedd Richard Hughes yn dal heb dŷ ar ei gyfer, er hwyrach y medrai hawlio'r tŷ lle y preswyliai i'r eglwys, fel y bwriadwyd unwaith! 'Roedd yr eglwys yn dlawd a dilewyrch, yr allor heb reiliau, a gwedd anweddus ar bob peth. Nid oedd Richard Hughes wedi medru gwneud fawr er 1729. 'Roedd pen dwyreiniol yr eglwys yn dechrau dadfeilio erbyn hyn; ychydig o feinciau di-gefn i'r plwyfolion, a'r llawr yn anwastad, llawr o frwyn llychlyd. Ar y llaw arall, roedd y cofrestri yn cael eu cadw yn rheolaidd. Fe brynwyd 'Register' Llanymawddwy gan Richard Hughes yn 1733, a'r cofnodion cyntaf ynddo yw am gladdedigaeth ei fab John yn 1714, ac am fedydd ci fab Edward yn 1717. Mae'r cofnodion yn Lladin ac mewn cyflwr gresynus erbyn heddiw; eto fe groniclir i Lewis Jones gymryd ci le yn Awst 17439, pan symudodd Richard Hughes i Fallwyd.

Nid oes ar yr adroddiad nesaf sydd ar gael nac enw'r Deon Gwlad na'r dyddiad, ond y mae'n amlwg yn dilyn yr un yn 1732. 'Roedd y gangell erbyn hyn wedi'i hatgyweirio, ond y mur deheuol yn parhau i ddadfeilio. Dyma'r cyfeiriad cyntaf at gloch, a dywedir bod un gloch yno, a honno mewn cyflwr da. Hon yw'r gloch bresennol, oherwydd mae arysgrif arni fel hyn:

COME TO PRAY, DON'T DELAY. 1742

Mae'r cofrestri o 1739 i 1755 yn gyflawn gan Lewis Jones yn Saesneg, wedi'u rhestru yn Fedyddiadau, Priodasau ac Angladdau am bob blwyddyn, a Lewis Jones wedi arwyddo pob un. Deuant i ben yn sydyn yn 1755, ac ar ôl y dyddiad yma ni cheir ond cofnodion o briodasau mcwn cofrestr arall. Curadiaid fel Rhys Anwyl, Edward Watkin a Hugh Hughes sydd wedi arwyddo'r rhain. Y rheswm am hyn yw i Lewis Jones gacl gofal plwyf Llanbedrog o 1754 ymlaen,a bu'n rhaid iddo gyflogi curadiaid o hynny ymlaen. A barnu yn ôl y cofnodion plwyf, ychydig iawn o amser a dreuliodd yn Llanymawddwy wedi iddo gael Llanbedrog.

Edward Owen yw'r rheithor nesaf, a daeth yma yn 1770, ac ni fu raid iddo gyflogi curad tan 1776, pryd y cychwynodd William Williams. Erbyn hyn fe geir mwy o fanylion ynghylch cartrefi'r plwyfolion: e.e. Blaen Cywarch, Esgair Adda, Pentre'r Wern, Tŷ Gwyn, Bedw Gwynion, 'Ty'n Ffridd, Llan, Perth y Felin, Cae Peris, Cilwern, Pen yr Erw a.y.y.b. Mae'n ddiddorol sylwi i Edward Owen fedyddio ei fab ei hun, William Wynn, yma yn Ebrill 1775. 'Roedd gwraig Edward Owen yn ferch i'r bardd William Wynn, rheithor Llangynhafal, a dyna'r rheswm am enw ei fab, a ddaeth yn rheithor Llanymawddwy ei hun yn ei dro yn 1819. Ni cheir enw Williams y curad ar ôl 1783. Fe'i dilynwyd am dri mis ddechrau 1784 gan Thomas Charles, yr enwog Thomas Charles wedi hynny o'r Bala. Yn yr amser byr hwnnw, fe weinyddodd dair priodas. Priodasai Thomas Charles ei hun y flwyddyn cynt â Sally Jones o'r Bala a oedd yn Fethodist; dyma'r cysylltiad mae'n debyg a fu'n gyfrifol am ei arhosiad byr yn Llanymawddwy. Ar ci ôl ef, bu curad o'r enw John Jones yma am rai misoedd, ac yna daeth Thomas Richards o ddiwedd 1784 hyd Fai 1801. £30 oedd ei gyflog a'r degwm yn mynd i'r rheithor, Edward Owen.

Bu newid yn y rheithor yn 1791, pan drefnwyd i Edward Owen symud i ymyl Rhuthun yn nes i ystad yr Arglwydd Bagot, oherwydd Edward Owen oedd goruchwyliwr yr ystad, a gresynai ei arglwydd am yr amser a dreuliai i fynd yn ôl ac ymlaen i Lanymawddawy i hel ei ddegwm ac ati. Gan bod brawd i'w feistr yn esgob Llanelwy, gwaith hawdd oedd trefnu i Robert Nannau, rheithor Llanwrog ger Dinbych, gyfnewid ag Edward Owen; byddai Robert Nannau yn dal i fyw ar ci ystad pa un bynnag.

Cyfrifai Thomas Richards ei hun yn Fethodist oddi mewn i'r Eglwys; tra bu yn gurad Llancynfelin âi i Langeitho yn fynych i wrando ar Daniel Rowland yn pregethu, a mynychai seiadau. Bu yn gymeradwy iawn yn Llanymawddwy; magodd dyaid o blant talentog — fe dyfodd y pum bachgen i fod yn offeiriaid. Yng Ngheunant y Felin ryw led cae o'r eglwys fe welir enwau wedi'u torri ar ddarn o graig lefn las. Yma mae R.R.1796; D.R.1792,1796 a 1798; T.R.1800, 1805; L.C.R.1842. 'Tri o feibion Thomas a Jane Richards ydynt. R.R. yw Richard Richards y mab hynaf, rheithor Caerwys a Meifod; D.R. yw David Richards (Dewi Silin) a dorrodd ei enw bedair gwaith, ficer Llansilin o 1819 tan ei farwolaeth yn 1826; T.R. yw Thomas Richards y trydydd mab a rheithor Llangynyw o 1826 hyd 1855. Yr olaf a dorrodd ei enw yw Thomas Cynddelw Richards, mab i David Richards a ddaeth yma yn 1842 yn ystod rheithoriaeth William Edwards a thorri ei enw yn ymyl ei dad, a oedd wedi marw yn 1826.

Arysgrifio DR  Arysgrifio HTE

Erbyn heddiw mae'n anodd iawn mynd at y garreg lefn yng Ngheunant y Felin, felly dyma ddewis dwy enghraifft fel esiamplau: y cyntaf o waith D.R. a'r ail lun o H.T.E. Fe ddengys y cyntaf fel y datblygodd David Richards i ddod yn feistr ar y grefft o dorri ei enw ar garreg erbyn 1798 — yn wir gelfydd. Y mae'r llythrennau H.T.E. yn sefyll am Henry Thomas Edwards, trydydd mab William Edwards, rheithor Llanymawddwy o 1834 i 1849. Ganed H.T.E. yn 1837 ac felly roedd yn ddeuddeg oed yn torri'i enw yn 1849, blwyddyn ei ymadawiad â Llanymawddwy. Gwnaeth waith da dros yr Eglwys a thros y Gymraeg; dyrchafwyd ef yn Ddeon Bangor yn 1876. Iddo ef y
priodolir y ffaith na phenodwyd byth wedyn esgob yng Nghymru na fedrai Gymraeg.

Ceir tirysgrif o'r eiddo Richard Hughes a wnaed yn 1729, yn rhestru tiroedd yr eglwys yn fanwl, ond nid yw'n hawdd ei ddehongli heddiw, a ninnau wedi colli cymaint o'r hen enwau ar y caeau. Mae'n sôn am y Cae Du, a Dôlhenllwyd; mae'n debyg mai'r caeau o dan yr eglwys sy'n gorwedd rhwng afonydd Pumryd a Dyfi yw'r rhain. Darn bach arall o werth hanner coron y flwyddyn yw Clwt y Person, ac mae hefyd dirym Mhennant yn cael yr enw Pant y Maes. Yr ochor draw i'r pentre mae llain o dir mewn cae yn perthyn i Edward Morgans a elwir yn Erw Garegog: erbyn ein hamser ni dyma enw'r fferm! Fe grybwyllir bod yna diroedd eraill a gollwyd flynyddoedd yn ôl. Dywed fod tir yr eglwys yn werth rhyw bedair punt y flwyddyn i'r person; yn ychwanegol, 'roedd taliad o geiniog ar gyfer pob tŷ yn y plwyf — gelwid hwn yn offrwm unwaith yn y pedair amser, h.y. yn flynyddol — a hefyd degwm y gwair yn ddwy geiniog.

Erbyn 1774 y mae tirysgrif Edward Owen yn cynnwys enwau ar y caeau megis y Cae Bach, y Weirglodd Fawr a'r Pwll budr. Mae'r eitemau yn yr eglwys yn cynnwys cwpan cymun arian heb gaead nac arysgrif, ffiol biwtar a phlât piwtar, dwy wenwisg, dau liain —un yn lliain main i'r allor — sedd i'r rheithor, Beibl Cymraeg a thri copi o'r Llyfr Gweddi Gyffredin, hefyd yn Gymraeg. 'Roedd tair ywen yn y fynwent. Cyfeiria Thomas Richards yn ei arolwg yn 1791, bod y Bwrdd Cymun mewn cyflwr da, a bod yno ddarllenfa, pulpud,  bedyddfaen carreg — rhyfedd na chyfeiriwyd at hwn yn y tirlyfrau blaenorol — galeri, un gloch ac un gist. Fe ddywed hefyd bod yn y fynwent 23 o goed pinwydd a blannwyd yno gan Edward Owen fel cysgod.

Yn dilyn Thomas Richards fel curadiad fe geir enwau Thomas Morgan, David Davies, William Pughe, David Evans, George Griffiths, yn ogystal â meibion Thomas Richards, Richard a David. Yn ystod curadaeth William Pughe, a ddaeth mewn amser yn rheithor Mallwyd, prynwyd y sêff haearn sydd yn y festri, ac arni'r arysgrif: Llanymowdder Register Chest 1813.

Yn 1819 penodwyd William Wynn Owen yn offeiriad, yr un a fedyddiwyd 44 mlynedd cyn hynny gan ei dad yn eglwys Llanymawddwy. Bu Charles Ashton yn siarad â hen bobl yn 1888 — 1895 a oedd yn cofio Mr Owen; eu tystiolaeth amdano oedd ei fod yn fonheddwr caredig a haelionus. Dywedir y byddai aml i fore Sul heb neb yn yr eglwys ond y clochydd ac yntau. Un o'i ddeiliaid ffyddlonaf oedd Catrin Owen o'r Bryn. Y gorchymyn a roddai i'r clochydd bob bore Sul ystormllyd a gerwin oedd: “Dos i edrych a weli di Catrin Owen yn dwad', ac os 'Na' fyddai'r ateb, dywedai, 'Wel, waeth i ni ddechrau na pheidio, ddaw yna neb arall. Ond pan ddeuai rhywun i'r eglwys o gryn bellter, câi groeso i ddod i'r rheithordy am dipyn o ginio.

A barnu oddi wrth y cofrestri, beth bynnag, 'roedd hi'n 1827 cyn i William Wynn Owen ddod ar gyfyl y lle. George Griffiths oedd y  urad a wasanaethodd yma o 1816 i 1827. Fe ellir tybio bod rheithordy wedi'i adeiladu erbyn 1827 y byddai'n weddus i'r rheithor plwyf fyw ynddo, ac mai dyna'r rheswm am i William Wynn ddod yma i fyw. Cadarnheir hyn yn Llechres 1939: cofnodir gweithredoedd yr hen bersondy yn dyddio o 1822. Fe lanwodd y rheithor y cofrestri yn ddi-fwlch o 1827 hyd ei farwolaeth ym mis Mai, 1834. Fe'i claddwyd o dan yr ywen sydd bellaf o'r ffordd, yr ywen ieuengaf, ac mae carreg fedd wedi ei gosod yno.

Daeth William Edwards yma yn Awst 1834, dros y mynyddoedd o Lanwyddelan, a'i wraig yn marchogaeth y tu cefn iddo, yn ôl yr hyn a groniclir gan y mab, Alfred George Edwards yn ei lyfr Memories. 'Roedd yr eglwys yn dywyll a llaith, y to a'r muriau yn wael, y pulpud a'r allor yn frwnt, diofalwch ac aflerwch i mewn ac allan. 'Roedd y rheithordy yn wael, a beth bynnag yn rhy fach i fagu teulu. Felly fe aeth y rheithor newydd i fyw i'r Bryn, a dyna'r man lle y ganwyd Archesgob cyntaf Cymru.

Dyma reithoriaeth gyntaf William Edwards, a dangosodd yn syth ei fod yn hoff o waith. Fe ailgychwynnodd yr Ysgol Sul; mynnodd lyfrau Griffith Jones, Testamentau Cymraeg, trigain ohonynt meddir, a phump o Feiblau Cymraeg. Yn ei atebion i'r Esgob Vowler Short yn 1849, fe ddywed Mr Edwards bod dros gant yn mynychu'r gwasanaethau ar gyfartaledd; gweinyddid y Cymun unwaith y mis. 'Roedd dosbarth Beiblaidd yn cwrdd ar nos Wener, fe âi i Gywarch at y mwynwyr yno, ac fe ddywed bod yna bersondy, hen adeilad mewn cyflwr canolig, yn wir bwthyn bychan. Y tirysgrif ddiwethaf a wnaed oedd yr un gan Thomas Richards yn 1791. William Edwards oedd y cyntaf o res o bersoniaid gweithgar ac enwog a fu yn gwasanaethu yn Llanymawddwy. Dywed Thomas Davies, yn 1893 “tua'r flwyddyn 1834, bu yma adfywiad mawr, ac y mae oddi ar hynny addoliad gwresog ac ymdrechion canmoladwy”. Penodwyd William Edwards i ficeriaeth Llangollen yn 1849. 'Roedd gan Georgc Borrow feddwl mawr ohono — gwcler ci gyfrol Wild Wales 1862. Yn amser Charles Ashton, fe gofid amdano gyda pharch digymysg, a dywedent 'Dyn iawn oedd Edwards'. Mae cofeb bres i fab arall i William Edwards, y Deon H.T. Edwards, ar fur ogleddol yr eglwys; roedd pobl Llanymawddwy yn meddwl yn uchel o Henry Thomas Edwards.

Yn ol: Hanes Sant Tydecho - Rheithor

Nesaf: Hanes Sant Tydecho - Rheithoriaid o 1849