Mae'r Testun canlynol gan yr awdur Alun Hughes o'r llyfr "Eglwys Llanymawddwy" a gyhoeddwyd gyntaf Awst 1998
Rhestr o Rheithorion
Ychydig iawn a wyddom am y rheithoriaid a'r curadiaid a wasanaethodd yma ar hyd y canrifoedd cynnar. Nid oes air yng nghyfrolau D.R.Thomas "History of the Diocese of St.Asaph", a'r rheswm am hyn yw am i Ddeoniaeth Cyfeiliog a Mawddwy gael ei throsglwyddo i Esgobaeth Bangor yn 1859. Hyd yma nid oes cyfrolau cyffelyb wedi dod o Fangor, ond yn y gyfrol "The Diocese of Bangor during three centuries, 17th to 19th inclusive" A.V.Price, fe geir y canlynol am Lanymawddwy:
David Offeiriat 1387
John ap Ior(werth) 1394
Gwell ap Ieuan ap Dd[afydd) 1394
Dyma restr o'r rheithoriaid a blwyddyn eu gosod o ddyddiau Harri'r V111, mor gyflawn ag y medrwn ar hyn o bryd:
Owain ap Dafydd 1537
Elis ab Hywel 1547
*Thomas ab Wiliam 1556
John Cynfel 1563
John Barker 1603
John Davies 1613
Edward Wyn 1644
John Ffoulkes 1659
John 'refor 1695
William Jones 1700
Roger Kynaston 1709
Richard Hughes 1711
Lewis Jones 1739
Edward Owen 1770
Robert Nannau 1791
William Wynne Owen 1819
William Edwards 1834
John Williams (Ab Ithel) 1849
Daniel Silvan Evans 1862
John Griffith 1876
John Jenkins 1889
Owen Hughes 1907
Jacob Ware 1918
R.Tywyn Jones 1923
Harold E. Hughes 1936
D. Jonathan Jones 1942
Kenneth F. Francis 1948
TJ. Wynzie Richards 1956
Phillip O. Butler 1957
Wm Llywelyn Davies 1963
Geraint Vaughan-Jones 1976
Gwynn ap Gwilym 1997-
* Yn 1720 cyhoeddodd Brown Willis arolwg o Esgobaeth Lanelwy yn seiliedig ar hen ddogfennau, ac yn hwn cyfeiria at lythyr a ysgrifennwyd at Mathew Parker yn 1560: yn neoniaeth Cyfeiliog, y rheithor ar y pryd yn Llanymawddwy oedd Thomas ap Williams, offeiriad preswyl.
Yn ol: Hanes Sant Tydecho - Y Dechrau
Nesaf: Hanes Sant Tydecho - Rheithoriaid hyd at 1849