Hanes Sant Tydecho - Rheithoriaid o 1849

Mae'r Testun canlynol gan yr awdur Alun Hughes o'r llyfr "Eglwys Llanymawddwy" a gyhoeddwyd gyntaf Awst 1998

Rheithoriaid o 1849

Y person nesaf a ddaeth yma oedd John Williams, neu Ab Ithel fel yr hoffai gael ei alw. Daeth dan ddylanwad y Diwygwyr Tractaraidd tra bu yn Rhydychen - Newman, Keble, Wilberforce a.y.y.b. - a bu ef a Nicander (Morris Williams), a oedd yn gyd efrydwr ag ef yn Rhydychen, yn rhannol gyfrifol am y naws uchel eglwysig, a'r wedd Gothig a roddwyd i'n heglwysi'r adeg yma. Fe ailadeiladodd eglwys Llanymawddwy yn 1854 yn y dull Seisnig Cynnar, gyda changell sy'n gulach na chorff yr eglwys. Deallwn na thynnwyd i lawr y pen gorllewinol, ond nid adferwyd y galeri. Y mae dyfrlliw o'r eglwys a'i chefndir ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol, o waith John Ingleby, cydymaith Thomas Pennant ar ei daith drwy Ogledd Cymru yn 1781. Dyma atgynhyrchiad o'r dyfrlliw, yn canolbwyntio ar yr eglwys a'r cyffiniau agosaf.

1781_Watercolour

Dengys y dyfrlliw yn glir mai eglwys un siambr oedd yma yn 1781, gyda ffenestr go llydan yn y pen dwyreiniol, dwy ffenestr pen sgwâr i'r ochr dde, cyntedd neu borth i'r dde — fel sydd heddiw — a chlochdy. Mae'r hen eglwys yn amlwg yn null syml y 17eg ganrif, ac mae hyn yn cyd-fynd â'r sylw a wnaed gan William Edwards i'r eglwys gael ei hailadeiladu neu o leiaf ei hatgyweirio yn 1687. Tystiolaeth Huw Rhys oedd bod y meinciau yn yr hen eglwys yn gulion ddi-gefn, heb ddim ond un neu ddau o gorau. “Roedd un yn perthyn i'r Plasau, a elwid yn Gôr y Plase; 'roedd yn uchel, mor uchel na fyddai'r teulu i'w weld ynddo drwy'r gwasanaeth. 'Roedd galeri yn y pen  gorllewinol. Cafodd Ab Ithel danysgrifiadau oddi mewn ac allan i'r plwyf yn cyrraedd y swm o £220; ef ei hun a ddygodd weddill y draul. Dywed Huw Rhys yn 1909 na wyddai beth ddaeth o goed yr hen eglwys, ond credai bod rhai yn ddistiau o dan y llawr, a rhai yn dulathau yn y to. Tystia iddynt wneud drws o'r hen dderw, a bod y bwrdd cymun o'r hen eglwys. Dyma'r bwrdd cymun sydd heddiw yn y festri. Y mae corff yr eglwys heddiw yn 42 troedfedd o hyd ac ugain troedfedd o led; hynny yw, mae'r hyd ddwywaith gymaint â'r lled, ac mae hyn yn nodweddiadol o hen eglwysi.

Er nad oes gennym brawf, mae'n bur debyg i Ab Ithel weddnewid y rheithordy yn llwyr hefyd. Dyma lun o'r rheithordy fel yr oedd rai blynyddoedd yn ôl, dipyn yn wahanol i ddisgrifiad William Edwards o'r rheithordy fel bwthyn bychan!

Y Rheithordy yn y tri degau cynnar gyda'r Parch Tywyn Jones a'i wraig a'i ferch wrth y drws.

Cefn y Rheithordy

Rhaid bod Ab Ithel wedi apwyntio curad o'r enw H.M. Johnson i edrych ar ôl y plwyf o ddechrau 1856 hyd ddiwedd y flwyddyn nesaf, ond heblaw hyn, y fo sydd wedi arwyddo'r gofrestr tra bu yma, yn ei law ddestlus. Un o'r personiaid llengar oedd Ab Ithel, ac edrychai ar ôl ei eglwys a'i braidd yn gydwybodol iawn. Tystiai'r plwyfolion ei fod o gymeriad addfwyn a charedig, yn hynod o barchus a chymeradwy yn yr ardal. Dywed J.J. Tynbraich bod ei natur ddifrifdwys a defosiynol ynghyd â'i olwg ddifrifol a thôn glerigol ei lais gwan wedi gwneud argraff ddofn arno; ond nad oedd neb mwy serchog ac agos at bawb. Gwnaeth lawer o waith gyda'r  isteddfod a chyda'r cylchgronau; y mae llawer wedi ei ysgrifennu am ei athrylith a'i fywyd. Digon yma yw sylwi ar ci gyfraniad i Emynau'r Eglwys 1942 — ugain emyn o gyfieithiadau o'r Lladin yn dilyn cwrs y flwyddyn eglwysig — ac hefyd iddo symbylu Glasynys [Owen Wyn Jones) i ymddiddori mewn llên gwerin. Ysgrifennodd Glasynys draethawd gwych ar Arglwyddiaeth Mawddwy', sy'n dal i fod yn gloddfa ffrwythlon hyd y dydd heddiw am hanesion a thraddodiadau'r cylch, ac hefyd am fraslun o hanes cynnar eglwysi Mallwyd a Llanymawddwy.

Wedi i Gyfeiliog a Mawddwy gael eu trosglwyddo i Fangor yn 1859, cafodd Ab Ithel ei symud i lan y môr yn Ardudwy yn Ebrill 1862. Unwaith yn unig y cymerodd y gwasanaeth yn ei blwyf newydd, a bu farw yn Awst yn yr un flwyddyn.

Daeth Silvan Evans yma ym Medi 1862. Ymddengys nad oedd yr eglwys wedi ei gorffen ar ymadawiad Ab Ithel. O dan gyfarwyddyd ac ar draul Silvan Evans, yn cael ei gynorthwyo gan Mr Edmund Peck o'r Bryn — Sir Edmund Buckley wedi hynny — gwnaed amryw o welliannau pwysig. Cafodd yr holl waith coed ei liwio, gorchuddiwyd y llawr â phriddlechi — y 'tiles' presennol — a gosodwyd ffenestr liw ddwyreiniol. Y mae hon yn dangos tri ffigur — yn y canol, Crist y Bugail da, Salvator Mundi; ar y chwith, Dewi Sant fel esgob, ac ar y dde Sant Tydecho fel meudwy. Mae'r oll yn llwyddiannus iawn, ac yn un o'r prif nodweddion a barodd i 'L.I.Ellis ymserchu gymaint yn eglwys Llanymawddwy yn ei gyfrol Crwydro Meirionnydd 1954. Rhoddwyd hefyd ddwy ganhwyllbren fforchog o bob tu i'r allor.

Un o Geredigion oedd Silvan Evans, a Llanymawddwy oedd ei reithoriaeth gyntaf. Bu yma hyd 1876 pan symudodd i Lanwrin. Cafodd ei benodi yn Athro cyntaf y Gymraeg yng Ngholeg Aberystwyth yn 1875, ac 'roedd hi'n hwylusach i fynd yno o Fachynlleth; rhaid cofio i'r tren gyrraedd Machynlleth yn 1863. Yn wir, bu bwriad unwaith i ymestyn lein Cemais Road — Dinas Mawddwy ymlaen drwy Lanymawddwy i Lanuwchllyn a thwnel o dan Fwlch y Groes. Ni ddaeth dim o hyn yn y pen draw, ond bu plwyfolion Llanymawddwy am beth amser yn paratoi i ddangos eu hunain gerbron y byd.

Ni wn pa ddylanwad a gafodd yr Athro fel rheithor ar ei braidd — nid oes dim wedi dod i lawr i'n goleuo ar hyn — ond dyma a ddywed Owen M. Edwards: “o blith athrawon cyntaf coleg Aberystwyth, yr un a fu â mwyaf o ddylanwad arnaf fi oedd Silvan Evans...gwnaeth inni gymryd diddordeb yng ngeiriau'r iaith Gymraeg, ac yn enwedig yn ei geiriau llafar a'i geiriau gwerin. Yr hen athro tal, llygadlon, difyr...” Mewn blynyddoedd i ddod, bu'n olygydd Emyniadur yr Eglwys yng Nghymru; y mae yn hwn adran helaeth o garolau Nadolig, adlewyrchiad o ganu'r Blygain yn ei hen blwyf — peth go newydd mewn casgliad o emynau. Mae naw o'i emynau yn yr Emynau'r Eglwys cyfredol, yn cynnwys ci garol 'Daeth y Ceidwad, llawenhawn', a'r emyn Sulgwyn “Tyred, ysbryd yr addewid”.

Y Gangell yn 1888

Yn dilyn Silvan Evans daeth John Griffith erbyn Gorffennaf 1876 a bu yma am dair blynedd ar ddeg hyd 1889. Yn ystod ei amser ef, dywed Huw Rhys i'r eglwys gael to newydd, fe'i paentiwyd, cafwyd bwrdd newydd i'r Cymun, lliain newydd a charped. Rhoddwyd darllenfa newydd hefyd, oherwydd cyn hynny fe ddarllenid y llithoedd yn sedd y gwasanaeth, a rhoddwyd stôf yn yr eglwys. Fe leolid y stôf yr adeg hynny yn safle'r pulpud presennol: fe welir yn glir fod peipen drwy'r tô yn y llun amlinellol o'r eglwys yn ysgrif Charles Ashton yn 1888. Ar wahân i hyn i gyd fe godwyd plat pres i goffawdwriaeth Henry Edwards, Deon Bangor a anwyd yn y Bryn, ag a oedd yn annwyl iawn gan y plwyfolion — ac yn wir drwy'r wlad yn gyffredinol.

Wedi amser John Griffith, bu John Jenkins yma am ddeunaw mlynedd tan 1907. Tua'r flwyddyn 1900, trefnodd yntau i lanhau'r eglwys drachefn, ei phaentio a'i farnishio a rhoi'r planciau ar ywal o dan y gloch. Ac yn ei amser ef y cafwyd yr ysgrifen ar fwa'r gangell sydd yn gymaint addurn i'r eglwys: Mawl a'th erys di yn Sïon, O Dduw. Mae'n diolch ni yn fawr iddo am y cynllun hwn, ond nid cymaint hwyrach am dywyllu'r eglwys drwy roi caniatâd i godi dwy ffenestr dywyll i goffâu Syr William Roberts a'i fab, gan ei frodyr a Lady Bradford.

Yn amser John Jenkins y dechreuwyd yr Ŵyl Gorawl. Y Parch Owen Hughes a ddaeth i Lanymawddwy ym 1907. Un peth yn unig a groniclodd Huw Rhys amdano sef y cafwyd stôf newydd eto a llyfrau hymnau newydd. Rhaid ei fod serch hynny yn gymeradwy iawn, oherwydd fe godwyd marmor coffadwriaethol iddo ar fur deheuol yr eglwys, yr unig un o holl reithoriaid Mawddwy a gafodd ei anrhydeddu fel hyn. Roedd ffug-enw ganddo - Tyswyn - ond ni wyddom am ddim o'i waith. Bu Owen Hughes farw yn 57 oed rai misoedd cyn terfyn y Rhyfel Byd Cyntaf, a chladdwyd ef yn y fynwent.

Y nesaf oedd Jacob Ware, a fu yma am bum mlynedd hyd tua chanol 1923.

Bu R. Tywyn Jones yma o 1924 hyd 1935. Yr oedd yn fawr ei barch yn yr ardal, yn fugail da ac o natur dawel. Rhodd Tywyn Jones yw'r groes bres hardd gyda cherrig amryliw sydd ar yr allor. Hefyd y mae'r ddau blat offrwm o dderw yn dyddio o'i amser ef. Bu Tywyn Jones farw yn 1934. Mae cofeb ar y mur gogleddol am David Rees, clochydd yr eglwys am dros hanner can mlynedd hyd 1930.

Daeth Harold Hughes yma yn 1936. Esgorodd dyfodiad Mr Hughes ar dymor hynod lewyrchus a gweithgar. Dyma'i reithoriaeth gyntaf ac ymdaflodd i'w waith ar unwaith. Y mae'r graen a'r llewyrch a welir heddiw ar yr eglwys i'w priodoli i fesur helaeth i'r hyn a wnaed ac a symbylwyd ganddo ef yn y pum mlynedd a hanner a dreuliodd yma. Fe atgywciriwyd yr eglwys yn 1939, a thros amser o bron bedwar mis (Awst-Rhagfyr] fe  gynhaliwyd y gwasanaethau yn Ysgoldy'r Werin. Ailagorwyd yr eglwys gan Arglwydd Archesgob Cymru, Rhagfyr 6ed 1939. Y mae'r rhestr ganlynol yn dangos maint y gwaith a wnaed:- y pulpud, y ddarllenfa, pedair ar bymtheg o gorau yng nghorff yr eglwys, ac yn y gangell yr allor, sedd yr offeiriad, dwy gadair y cysegr, y bwrdd credens a'r cynheiliaid llyfr. Y mae hon yn rhestr hir, ac o sylwi ar yr arysgrifau ar blatiau pres sydd ar y rhan fwyaf o'r dodrefn, fe welir gymaint yr ysgogodd Harold Hughes y plwyfolion i roddi mor hael i'r eglwys. Mae'r oll o bren derw. Yn ei amser ef hefyd y dymchwelwyd yr hen reithordy, a chodi'r rheithordy presennol.

Aeth Harold Hughes oddi yma i Lanwnnog yn gynnar yn 1942. Bu farw yn ddyn ifanc 48 mlwydd oed yn 1952.

Wedi hyn daeth y Parchedig Is-ganon David J.Jones yma ym Mis Mawrth 1942, a bu yma am bum mlynedd. Yn ei amser ef y gosodwyd yr Organ Gorsen ddwy allwedd a phedal, o dderw yn cydweddu â gweddill yr eglwys.

Yn amser Kenneth Francis a fu'n rheithor yma o 1948 i 1956 cafwyd streic yn yr ysgol. 'Roedd bwriad y Pwyllgor Addysg i gau'r ysgol wedi cythruddo'r ardal, a gofynnwyd i'r rheithor gadw'r ysgol ar agor. Cytunodd a bu'n ysgolfeistr am ddwy flynedd, 1948 — 1950, pan benodwyd athrawes gan y Pwyllgor.

Byr iawn fu cyfnod Wynzie Richards yn 1956, ond bu Philip Butler yma o 1957 i 1963. Yn ci amscr cf eto, bu gwelliannau yng nghyflwr yr eglwys:- fe roddwyd bwrdd derw a desg litani, ac ef a brynodd y gist haearn â chlo clap i gadw dogfennau'r eglwys (cedwid y dogfennau cyn hynny yn y rheithordy). Codwyd hefyd y porth cadarn i'r fynwent. Dyma'r ysgrifen sydd arni:- “Codwyd y porth hwn yn 1958 gyda chymynrodd o arian gan y diweddar Llywelyn Wynne Roberts a thrwy roddion o ddefnyddiau a llafur gan aclodau a chyfeillion yr eglwys hon."

Mr Butler oedd y rheithor olaf i fyw yn y rheithordy. Ar ei ôl ef, fe unwyd plwyfi Llanymawddwy a Mallwyd; 'roedd W.Ll.Davies a gymerodd y rheithoriaeth yn 1963 yn byw ym Mallwyd.

Bu Geraint Vaughan Jones yma o 1976 i 1997. Cofir yn neilltuol am  ei gyfraniad i gerddoriaeth yr eglwys, yn enwedig i'r Ŵyl Gorawl ac i'r Plygeiniau a ffynnai yn ei amser, ond hwyrach mai'r uchafbwynt oedd gosod Croes ar ben Bwlch y Groes ar Ŵyl y Grôg Sanctaidd 1989, I ddyfynnu O.M.Edwards yn 7ro drwy'r Gogledd yn sôn am yr hen deulu gartref yng Nghoed-y-Pry yn hel straeon gyda'r hwyr ar noson dymhestlog:- “caem hanes yr hen bererinion yn penlinio wrth y groes fyddai ar ben y Bwlch. Nid ocs na chroes na phererin yno'n awr...” meddai, a rhyw dristwch am yr hyn a fu i'w deimlo yn ei ymadrodd. Ond cafwyd croes yn 1989, a cherddodd y plwyfolion i fyny i ben y Bwlch, wedi gwasanaeth yn yr eglwys, i'w gosod gyda'r csgob a'r rheithor. Rhoddodd y rheithor ddysgl elusen bres i'r eglwys, ac eicon bychan 19eg ganrif sydd ar y mur wrth fynd i'r gangell.

Cychwynnodd Gwynn ap Gwilym yma ym Mawrth 1997 yn rheithor ar bum eglwys, Llanbryn-mair, Darowen, Cemais, Mallwyd a Llanymawddwy.

Gair am hirhoedledd pobl Llanymawddwy. Ni nodwyd oed y rhai a gladdwyd tan 1789, ond wedi prynu Cofrestr newydd yn 1813, nodwyd yr oed bron yn ddieithriad. Bob blwyddyn claddwyd dau neu dri oedd dros eu pedwar-ugain; nid oedd yn anghyffredin i rai fyw ymhell dros naw deg, a bu Robert Thomas y teiliwr farw yn gant a dwy yn 1794. Y ddau gofnod cyntaf yn y gofrestr newydd yw am Elizabeth Richard, Esgair Adda, yn 89, a Sarah Rowland, Minffordd, yn 88. Yr olaf, mae'n debyg, oedd y Sally Minffordd yr adroddai Lasynys ac yn fwy diweddar John y Plasau am ei chastiau. Mis yn ddiweddarach claddwyd Elinor Evan eto o Esgair Adda yn 86, a'r flwyddyn ddilynol Anne Richard yn 98. Ymhlith y dynion dyma Thomas Jones o'r Cerddin yn marw yn gant oed yn 1823, ac Evan Harry o Dy'n-y-simdde yn gant a dwy pan fu farw yn 1831. I lawr i'n hamser ni, y mae hirhoedledd yn nodweddu'r ardal. Yn ystod yr ugeinfed ganrif, bu i dri ar ddeg gyrraedd eu nawdegau; ar gyfartaledd y mae hyn yn bur agos i'r hyn a ddisgwylid yn
nechrau'r ganrif o'r blaen, er na chafwyd neb wedi cyrraedd ei ganmlwydd oed.

Cyfeiriadau

Glasynys: Y Brython, Cyt. V, 1862-63, 435-463

Charles Ashton: Yr Haul, 1888 a 1893

Mari Ellis: Cymdeithas Hanes Meirionnydd, V11, 1975, 231-250 Huw Rhys: Traethawd ar Hen Eglwys Llanymawddwy, Ionawr, 1909 John Jones, Ty'n Braich: Adgofion am Ab Ithel, Bangor 3242

Yn ol: Hanes Sant Tydecho - Rheithoriaid hyd at 1849